Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2015
Amser: 09.18 -
10.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3290
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
William Powell AC (Cadeirydd) Russell George AC Bethan Jenkins AC Jeff Cuthbert AC (yn lle Joyce Watson AC) |
Tystion: |
Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jo Larner, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Gill Eveleigh (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 183KB) Gweld fel HTML (150KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Jeff Cuthbert ar ei rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at:
· Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am yr amserlen ar gyfer adolygu safonau ar gyfer cyrff preifat a chyrff yn y sector gwirfoddol na chawsant eu cynnwys yn y garfan gyntaf; a
· gofyn i Brif Weinidog Cymru;
o i gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw gweithredu ar yr amserlen honno; ac i
o ddarparu gwybodaeth bellach ar fwriadau’r Llywodraeth o ran diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
o gofyn am wybodaeth bellach am y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fusnesau penodol gael eu tynnu’n ôl fel rhan o’r drydedd garfan o safonau; a
o gofyn am eglurhad ar rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth benderfynu pa fusnesau y dylid eu tynnu’n ôl.
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i’r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:
· Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar lythyr y Gweinidog; ac
· Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gamau y mae wedi’u cymryd, yn enwedig o ran cysylltu ag awdurdodau lleol, yn dilyn cyhoeddi’r ymchwil i archwilio’r berthynas rhwng taliadau meysydd parcio a nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a phartïon eraill yr effeithiwyd arnynt a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny roeddent yn dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor ac i anfon ymlaen, er gwybodaeth, gopi o ohebiaeth gysylltiedig a anfonwyd at yr Aelodau yn ddiweddar.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn cefnogi’r llythyr gan Gyngor Tref Cas-gwent a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa ar frys.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Achub y Gyfnewidfa Lo a’r deisebydd a chytunwyd i:
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth gyda’r sylwadau ychwanegol a gofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf o ran ei dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa ac a yw’n credu bod Cyngor Sir Caerdydd yn defnyddio’i bwerau mewn ffordd briodol; ac wrth wneud hynny
· anfon copi o’r llythyr at Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Stephen Doughty AS, gyda chais eu bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eu gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf.
Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae hi’n rhan o ymgyrch i ailagor Twnnel y Rhondda.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a chytunwyd i:
· Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd y mae’n disgwyl adolygiad Sustrans i mewn i Dwnnel y Rhondda gael ei gwblhau; a
· Rhoi gwybod i’r deisebydd bod yr Adran Briffyrdd yn berchen ar dwneli rheilffordd eu hunain yng Nghymru ac efallai y byddai am gysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor.
Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd ac, o ystyried na fydd y cynnig ymchwil sy’n cael ei ddatblygu i edrych ar economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau yn cael ei gwblhau tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad, cytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor er mwyn caniatáu i Bwyllgor y 5ed Cynulliad ei ystyried pe byddai’n dewis gwneud hynny.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog, ar gais y deisebwyr, yn gofyn am ateb i’r cwestiynau a godwyd yn eu llythyr.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes yna faes o waith yr Athro Donaldson sy’n ymwneud â Gwyddor Gwleidyddiaeth y gallai’r deisebydd naill ai fod yn ymwneud ag ef, neu’n gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch. Cytunodd yr Aelodau hefyd i symud i gau’r ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi ei dderbyn gan y Gweinidog.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi pryderon am y sefyllfa yng ngoleuni’r cyngor a dderbyniwyd.
Trafododd yr Aelodau dystiolaeth a gafwyd o arolygon ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar a gynhelir ar 8 Rhagfyr.
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i:
· Gadarnhau a yw rheoli asbestos yn cael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi llywodraethwyr; a
· Darparu gwybodaeth bellach ar aelodaeth y gweithgor asbestos a’i gylch gorchwyl.